Choose your language:

English
Welsh
French
Italian
Dutch
German
Polish
Spanish
Catalan
Portuguese
Swedish
Danish
Finish
Norwegian
Estonian
Lithuanian
Latvian

© EUROPEAN SOIL AND WATER
ENGINEERING GROUP
Legal mentions
ESWEG PRESENTATION | CASES HISTORY | COMPANY PROFILES | CONTACT | GLOSSARY   



   Salix are unique within the UK construction industry in that we are a designer, contractor, manufacturer, distributor and grower, rolled into one complete package. Therefore, our clients can get a holistic, cost effective service from one main source. We provide vegetative solutions to water quality, civil engineering and soil erosion issues, as well as ecological and landscape enhancement.

The common element in all our work is the use of vegetation as a key stabilising and functioning component. Commonly termed ‘soil bioengineering', the use of vegetation in soil stability and water quality issues is ever increasing. Salix lead the way in this innovative discipline.

Our comprehensive services includes design, supply and build as a complete in- house package, supported by our UK manufacturing of erosion control products, extensive native wetland plant production, specialist staff and mechanical plant. For every individual project, Salix are committed to providing a solution led approach with a strong technical and practical support base.

In the past traditional engineering practices have relied on hard revetment techniques to control erosion. These practices are expensive to construct, completely unsustainable and can greatly reduce the ecological value of a site.

Soil bioengineering solutions offer a cost effective and truly sustainable alternative to problems that would traditionally have been addressed with ‘hard' engineering methods. When used appropriately soil bioengineering can enhance long-term stability, greatly improve landscape aesthetics, reduce environmental impact, increase the sustainability of materials used and enhance the ecological value of a site.

www.salixrw.com    


   Mae Salix yn unigryw o fewn diwydiant adeiladu'r DU oherwydd ein bod ni'n ddylunwyr, yn adeiladwyr, yn wneuthurwyr, yn ddosbarthwyr ac yn dyfwyr o fewn un pecyn cyfan. Felly, caiff ein cleientiaid wasanaeth cyfannol, cost effeithiol o un brif ffynhonnell. Rydym yn cynnig atebion llystyfiannol i faterion ansawdd dwr, peirianneg sifil ac erydu'r pridd, yn ogystal â mwyhad ecolegol a gwella'r tirlun.

Yr elfen gyffredin yn ein holl waith yw defnyddio llystyfiant fel cydran allweddol o safbwynt sefydlogi a ffwythiant. Yr enw cyffredin ar y broses o ddefnyddio llystyfiant o fewn maes sefydlogi'r pridd a materion yn ymwneud ag ansawdd dwr yw 'bio-beirianneg pridd', sy'n broses a gaiff ei defnyddio fwyfwy erbyn heddiw. Mae Salix yn arwain y ffordd o fewn y maes arloesol hwn.

Mae ein gwasanaethau cynhwysfawr yn cwmpasu dylunio, cyflenwi ac adeiladu o fewn pecyn mewnol cyflawn, sydd wedi ei gefnogi gan ein gwneuthuriad ni yn y DU o gynnyrch rheoli erydiad, ein cynhyrchu o blanhigion gwlyptir brodorol, ein staff arbenigol a'n hoffer mecanyddol. I bob prosiect unigol, mae Salix yn ymrwymedig i gynnig ateb â chefnogaeth gref o safbwynt technoleg a dulliau ymarferol.

Yn y gorffennol, bu dulliau peirianneg traddodiadol yn dibynnu ar dechnegau gwrthglawdd caled er mwyn rheoli erydiad. Mae'r dulliau hyn yn ddrud i'w hadeiladu, yn hollol anghynaliadwy a gallant leihau gwerth ecolegol safle yn fawr iawn.

Mae atebion bio-beirianneg pridd yn cynnig dewis amgen, cost effeithiol a hollol gynaliadwy i broblemau a fyddai wedi eu datrys yn draddodiadol gan ddefnyddio dulliau peirianneg 'caled'. Wrth eu defnyddio mewn modd priodol, gall bio-beirianneg pridd wella sefydlogrwydd yn y tymor hir, mwyhau estheteg y tirlun, lleihau effaith ddrwg ar yr amgylchedd, cynyddu cynaladwyedd deunyddiau a chynyddu gwerth ecolegol safleoedd.

Ceir enghraifft nodweddiadol o atebion bio-beirianneg Salix ar yr afon Ebwy yn Ne Cymru. Cyflawnwyd gwaith bio-beirianneg (llun ar y chwith) dros 1.5 km o dir fel dewis amgen uniongyrchol i wrthgloddiau cerrig mawrion (llun ar y dde). Pwrpas yr ateb bio-beirianneg yw gwrthsefyll cyflymdra llif uchel dros 4.0 metr yr eiliad.

www.salixrw.com